PWYSIG: Mae'n bosibl bod y ddogfen hon ac unrhyw beth sydd wedi'i amgáu gyda hi yn cynnwys cyngor cyfreithiol sydd wedi'i roi yn gyfrinachol i Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu unrhyw sefydliad arall sy’n rhan o Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Os felly, mae’r cyngor yn destun braint broffesiynol gyfreithiol. Peidiwch ag anfon y ddogfen hon (neu unrhyw atodiad iddi) at unrhyw berson y tu allan i Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru heb ganiatâd ysgrifenedig gan aelod o Adran Gwasanaethau Cyfreithiol y Comisiwn. Os ydych wedi cael y ddogfen hon drwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r awdur ar unwaith drwy ei ffonio.

 

IMPORTANT: This document and any attachment may contain legal advice supplied in confidence to the National Assembly for Wales Commission or another organ of the National Assembly for Wales. If so, it will be subject to legal professional privilege. Do not forward this document (or any attachment) to any person outside the National Assembly for Wales Commission without the written permission of a member of the Commission’s Legal Services Department. If you have received this document in error, please notify the author immediately by telephone

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Y BIL DADREOLEIDDIO drafft

Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Cyflwyniad

1.       Ym mis Gorffennaf 2013, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Fil Dadreoleiddio drafft.  Sefydlwyd Pwyllgor ar y Cyd o ddau dŷSenedd y DU i gynnal gwaith craffu cyn deddfu ar y Bil drafft a'r polisïau sy'n sail iddo.  Cyhoeddodd y Pwyllgor hwnnw gais am dystiolaeth, i ddod i ben ar 16 Medi, ac mae'n bwriadu cyflwyno adroddiad erbyn 16 Rhagfyr.  Un o'r cwestiynau a ofynnwyd gan y Pwyllgor oedd: 'Beth fydd goblygiadau'r Bil drafft ar gyfer y deddfwrfeydd datganoledig?'  Mae'r Pwyllgor felly wedi gofyn am farn y deddfwrfeydd datganoledig, ac mae wedi cytuno i ganiatáu i dystiolaeth ddod i law gan y Cynulliad Cenedlaethol erbyn 11 Hydref.

Cefndir

2.       Mae'r rhagair i'r Bil drafft yn ei ddisgrifio fel y cam diweddaraf yn ymdrech barhaus y Llywodraeth i gael gwared ar fiwrocratiaeth ddiangen sy'n costio miliynau o bunnoedd i fusnesau ym Mhrydain, sy'n llethu gwasanaethau cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai, ac sy'n amharu ar fywydau beunyddiol miliynau o unigolion.  Mae'n egluro sut y mae cynnwys y Bil yn lleihau pwysau diangen mewn tri phrif faes:

·         Rhyddhau busnesau o fiwrocratiaeth;

·         Gwneud bywyd yn haws i unigolion a chymdeithas sifil; a

·         Lleihau gofynion biwrocrataidd ar gyrff cyhoeddus.

3.       Mae'r Bil drafft yn cynnwys 65 o gymalau a 16 o Atodlenni.  Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ymdrin â chael gwared ar y gofynion sy'n gysylltiedig â phynciau penodol, sy'n gysylltiedig i raddau amrywiol â gwahanol rannau'r Deyrnas Unedig.  Mewn perthynas â Chymru, mae nifer yn ymwneud â phynciau nad ydynt wedi'u datganoli, fel cyfraith cwmnïau, methdaliad a morgludiant rhyngwladol.  Mae rhai eraill yn effeithio ar ddeddfwriaeth sy'n gymwys i Loegr yn unig.  Mae'r rheini sy'n effeithio ar gyfraith Cymru a Lloegr ynghylch pynciau fel tai a llywodraeth leol yn fwy arwyddocaol.  Fodd bynnag, mae archwiliad rhagarweiniol o'r darpariaethau manwl hynny'n awgrymu y cymerwyd gofal i gyfyngu effaith y newidiadau hynny i Loegr yn unig; gweler, er enghraifft, gymalau 20 a 21 sy'n ymwneud â thai.

4.       Mae'r papur hwn felly'n canolbwyntio ar y darpariaethau a gaiff eu cymhwyso'n gyffredinol, yn hytrach na'r rhai penodol.  Y rhain yw:

·         Deddfwriaeth nad yw bellach o ddefnydd ymarferol (cymalau 50-57);

·         Gweithredu swyddogaethau rheoleiddio (cymalau 58-61); a

·         Darpariaethau cyffredinol (cymalau 62-65).

 

Deddfwriaeth nad yw bellach o ddefnydd ymarferol

5.       Mae'r cysyniad o ddeddfwriaeth nad yw bellach o ddefnydd ymarferol yn ymddangos am y tro cyntaf yng nghymal 50, sy'n cyflwyno Atodlen 16.  Mae hyn, yn ei dro, yn diddymu neu'n dirymu deddfwriaeth benodol, a chaiff hyn ei egluro'n llawn yn y Nodiadau Esboniadol.  Mae'r rhain yn rhoi syniad o'r math o amgylchiadau a allai arwain at benderfynu nad oes gan ddeddfwriaeth unrhyw effaith ymarferol.  Enghraifft o hyn yw diddymu Deddf Cwmnïau Dŵr Statudol 1991 - yn dilyn preifateiddio ac aildrefnu'r sector dŵr, nid oes unrhyw gwmnïau bellach a fyddai'n dod o dan ddarpariaethau'r Ddeddf.  Yn yr un modd, bydd Deddf Cynnyrch Amaethyddol (Graddio a Marcio) 1928 a Deddf Diwygio Cynnyrch Amaethyddol (Graddio a Marcio) 1931 yn cael eu diddymu oherwydd fod deddfwriaeth Ewropeaidd wedi'u goddiweddyd.

6.       Mae darpariaeth fwyaf arwyddocaol y Bil i'w chael yng nghymal 51. Byddai hyn yn caniatáu i Weinidog y Goron anghymwyso deddfwriaeth pe bai'n ystyried nad oes gwerth ymarferol iddi bellach. Gallai'r Gweinidog wneud hyn drwy wneud gorchymyn yn unig.  Gellid diddymu neu ddirymu deddfwriaeth yn gyffredinol, neu mewn perthynas â rhan benodol o'r DU.  Mae'r Bil yn cynnwys enghreifftiau o ddeddfwriaeth San Steffan a fyddai'n anghymwys bellach yn Lloegr, ond a fyddai'n parhau i fod yn gymwys yng Nghymru.  Yn Neddf Gweinidogion y Goron 1975, diffinnir Gweinidog y Goron fel a ganlyn: 'the holder of an office in Her Majesty's Government in the United Kingdom, and includes the Treasury, the Board of Trade and the Defence Council.'  Mae deddfwriaeth at y dibenion hyn yn golygu Deddf (Seneddol) neu is-ddeddfwriaeth, ond nid Deddf neu Fesur y Cynulliad Cenedlaethol.

7.       Fodd bynnag, ar sail cymal 57(2), gellid gweithredu'r pŵer Gweinidogol i ddiddymu deddfwriaeth mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaeth a wneir mewn Deddf Senedd yr Alban, mewn Deddf y Cynulliad Cenedlaethol, mewn Mesur y Cynulliad Cenedlaethol neu mewn deddfwriaeth Gogledd Iwerddon, neu oddi tanynt, ond dim ond i'r graddau bod y diddymiad yn ddarpariaeth achlysurol, atodol, canlyniadol, trosiannol, dros dro neu arbedol.

8.       Os bydd gorchymyn arfaethedig yn cynnwys darpariaeth a ddaw o fewn cymhwyster deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol pe bai wedi'i gynnwys yn un o Ddeddfau'r Cynulliad, byddai'n rhaid i Weinidog y DU gael caniatâd Gweinidogion Cymru, ond nid caniatâd y Cynulliad Cenedlaethol.  Mae cymalau dilynol yn nodi mai'r weithdrefn uwchgadarnhaol a fyddai'n gymwys yn San Steffan.

9.       Ar hyn o bryd, byddai'r weithdrefn anstatudol ar gyfer Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn gymwys i orchmynion gan Weinidogion y DU sy'n gwneud darpariaethau o fewn cymhwyster deddfwriaethol y Cynulliad.  Fodd bynnag, gallai Llywodraeth y DU ddadlau y byddai gofyniad statudol i geisio caniatâd gan Weinidogion Cymru yn disodli gweithdrefn anstatudol o'r fath.

Felly, gwahoddir y Pwyllgor i ystyried:

(a)     a yw'n fodlon â'r darpariaethau fel y'u drafftiwyd;

ac, os nad ydyw,

(b)     a ddylai Gweinidogion y DU allu datgymhwyso darpariaethau a fyddai'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol mewn unrhyw fodd;

(c)      a ddylent allu gwneud hynny gyda chaniatâd y Cynulliad Cenedlaethol yn hytrach na chaniatâd Gweinidogion Cymru; neu

(d)     a ddylai'r Bil yn lle hynny ddarparu ar gyfer gorchmynion i'w gwneud gan Weinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaethau a ddaw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol; ac, os felly, pa weithdrefn gan y Cynulliad a ddylai fod yn gymwys i orchmynion o'r fath o San Steffan (gan gofio bod y weithdrefn uwchgadarnhaol yn cael ei defnyddio yn San Steffan).


 

 

Gweithredu swyddogaethau rheoleiddio

10.     Mae cymal 58(1) yn darparu bod yn rhaid i'r person sy'n gweithredu swyddogaeth rheoleiddio y mae'r adran hon yn gymwys iddi gadw mewn cof ddymunoldeb hyrwyddo twf economaidd wrth weithredu'r swyddogaeth honno.

11.     Byddai Gweinidog y Goron, drwy orchymyn, yn gallu pennu'r swyddogaethau rheoleiddio y byddai cymal 58 yn gymwys iddynt.  Ni chaiff gorchymyn o'r fath bennu swyddogaeth rheoleiddio i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru os bydd, neu i'r graddau y bydd, swyddogaeth yn ymwneud â materion nad ydynt yn rhai datganoledig.  Mae mater wedi'i ddatganoli yn golygu mater a ddaw o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol.  Felly, ni fyddai'n gymwys, er enghraifft, i gael ei reoleiddio gan Gomisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â'r iaith Gymraeg, ond byddai'n gymwys i'r broses o reoleiddio darlledu yng Nghymru gan Ofcom.

 

A yw'r Pwyllgor yn fodlon?

Darpariaethau cyffredinol

12.     Byddai cymal 62(1) yn rhoi'r pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud gorchymyn i wneud darpariaeth sydd, yn ei farn ef, yn briodol yn sgîl y Ddeddf.  Gallai hynny gynnwys darpariaeth drosiannol, dros dro neu arbedol a gallai ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu darpariaethau deddfwriaethol, gan gynnwys y rheini a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol.  Er enghraifft, pe bai Deddf Cynulliad yn cyfeirio at ddeddfwriaeth a fyddai'n cael ei diddymu gan y Bil, gellid dileu'r cyfeiriad hwnnw.  Yn y modd arferol, byddai gwelliannau i ddeddfwriaeth sylfaenol yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol yn San Steffan; byddai newidiadau i is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol.

A yw'r Pwyllgor yn fodlon, neu a ddylid cynnwys gofyniad cydsynio mewn perthynas â deddfwriaeth sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol?

 

Gwasanaethau Cyfreithiol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Hydref 2013